News

‘Ni â’u Cofiwn’

‘Ni â’u Cofiwn’

Bu i bob pentref a thref ar draws Ynys Môn, Cymru, y DU a’r Iwerddon gael eu heffeithio gan arswyd y Rhyfel Byd Cyntaf – rhoddodd bobl gyffredin eu gwasanaeth mewn amgylchiadau anghyffredin er ein rhyddid ni – ‘Ni â’u cofiwn hwy’.

Bu i’r wythnos hon yn San Steffan ac yn yr etholaeth ganolbwyntio ar ddigwyddiadau i nodi Canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mynychais wasanaeth yn Eglwys y Santes Margaret, Abaty San Steffan i gofio’r digwyddiad gan mlynedd yn ôl pan gyfarfyddodd y Prif Weinidog, David Lloyd George ag aelodau o’r ddau Dŷ Seneddol yn Eglwys y Santes Margaret i ddiolch yn ddiymhongar a pharchus am dynnu’r byd o’i berygl mawr!

Yn ystod y gwasanaeth traddodiadol cafwyd darlleniadau gan Lefarydd y Tŷ Cyffredin a’r Arglwyddi yn ogystal â chan aelodau o Senedd Ieuenctid y DU. Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae cynnydd mawr wedi bod yn y teuluoedd a’r bobl ifanc sy’n talu eu teyrngedau ar y Cadoediad a Sul y Cofio, ochr yn ochr â chyn-filwyr, dynion a merched sy’n gwasanaethu, arweinwyr dinesig, y cyhoedd ac arweinwyr eglwysig.

Yn y Tŷ Cyffredin, siaradais yn y ddadl gyffredinol emosiynol ynglŷn â Chanmlwyddiant y Cadoediad. Siaradais am rôl merched a gadwodd ein cymunedau ynghyd yn ystod y Rhyfel Mawr; rôl morwyr a’r Llynges Fasnachol a sicrhaodd bod y fasnach yn dal i barhau yn ystod yr amseroedd sensitif hyn.

Cofiais am erchylltra’r RMS Leinster yn suddo, a suddwyd gan Long Danfor Almaenig wrth iddi adael Dún Laoghaire am Gaergybi ym mis Hydref 1918. Hyd heddiw, dyma’r golled fwyaf erioed ym Môr Iwerddon. Ymysg y meirw oedd aelodau o’r criw o Ynys Môn a’r Iwerddon, teithwyr – dynion, merched a phlant o gymunedau Cymreig a Gwyddelig ac o bob cwr o’r byd. Disgrifiodd hyn erchylltra’r gwrthdaro yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn ôl yn yr etholaeth, mynychais wasanaethau a’r senotaff i dalu fy nheyrnged fel AS dros Ynys Môn i’r rheiny i gyd a wasanaethodd ac a wnaeth yr aberth eithaf yn y Rhyfel Mawr ac mewn rhyfeloedd wedi hynny.

Bu i bob pentref a thref ar draws Ynys Môn, Cymru, y DU a’r Iwerddon gael eu heffeithio gan arswyd y Rhyfel Byd Cyntaf – rhoddodd bobl gyffredin eu gwasanaeth mewn amgylchiadau anghyffredin er ein rhyddid ni – ‘Ni â’u cofiwn hwy’.

Yn olaf, talaf deyrnged i’r trefnwyr ac i’r Lleng Brydeinig Frenhinol am eu harweinyddiaeth!

Centenary Remembrance Day Holyhead 11 Nov 2018 Oic 1
Share Post: