Newyddion

Datganiad diweddaredig ynglŷn â Brexit

Mae'r sefyllfa Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin yn llanastr. Llanastr a grëwyd gan Lywodraeth y DU a'r Prif Weinidog. Ychydig iawn sydd wedi newid ers fy niweddariad diwethaf.

Yr wythnos ddiwethaf cafodd cytundeb y Prif Weinidog ei wrthod gan y Senedd. Pleidleisiodd y Senedd hefyd i gael gwared â'r opsiwn o adael heb gytundeb ac i ymestyn dyddiad Brexit y tu hwnt i 29 Mawrth. Fe wnes i bleidleisio yn erbyn cytundeb y Prif Weinidog ac o blaid cael gwared â'r opsiwn o adael heb gytundeb ac i ymestyn dyddiad Brexit.

Nid yw'r Prif Weinidog wedi llwyddo i argyhoeddi ei phlaid ei hun, heb sôn am argyhoeddi'r wrthblaid a'r wlad, bod y cytundeb DU-UE yn gytundeb da i bobl y DU. Mae'n gwahanu'r DU - mae'r Backstop i osgoi ffin galed ar ynys Iwerddon yn caniatáu i Ogledd Iwerddon aros yn gysylltiedig â'r UE, a fydd i bob diben yn gosod ffin i lawr Fôr Iwerddon. Byddai hyn yn cael effaith negyddol ar borthladdoedd a chymunedau yng Nghymru a Lloegr. Byddai Marchnad Sengl a Threfniant Tollau gyda'r UE yn datrys hyn.

Byddai'r opsiwn o adael heb gytundeb yn arwain at anhrefn a thollau gyda gwledydd yr UE. Mae estyniad yn synhwyrol er mwyn osgoi anhrefn bellach. Yn wir, yn 2016 dywedodd yr ymgyrch Vote Leave bod yn rhaid i ni gymryd ein hamser a chael pethau'n iawn.

Y Prif Weinidog sy'n gyfrifol am yr oedi gyda'r trafodaethau - hi ddewisodd fynd i'r llys mewn ymgais i fynd heibio'r Senedd, hi alwodd Etholiad Cyffredinol 2017 a cholli ei mwyafrif yn y senedd a'i mandad ar gyfer torri cysylltiad yn llwyr/Brexit caled. Ers hynny mae hi wedi cael ei dal yn wystl gan yr asgell dde galed yn ei phlaid (yr ERG) a'r DUP.

Nid yw wedi llwyddo i uno'r Senedd na'r wlad ac mae rhaid iddi newid ei hymagwedd. Rwyf yn derbyn canlyniad Etholiad Cyffredinol 2017 a hefyd canlyniad refferendwm 2016. Ond, addewais y byddwn yn gwrthod Brexit 'heb gytundeb', pleidleisio i gadw manteision y Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau ac i wrthwynebu Bil y Ceidwadwyr ar Ymadael â'r UE (Y Bil Diddymu Mawr). Rwyf wedi cadw at fy adduned ac wedi pleidleisio yn unol â hynny.

Rwy'n deall fod yna lawer o raniadau o hyd, ond mae rhaid i ni gael hyn yn iawn, er mwyn heddiw a'r dyfodol. Yn yr haf dywedais yn glir os nad yw'r Llywodraeth/Senedd yn gallu datrys llanastr Brexit bod yn rhaid i'r mater fynd yn ôl i'r bobl iddyn nhw gael y gair olaf. Mae yna symud tuag at yr opsiwn hwn ac mae refferendwm cadarnhaol yn beth rhesymegol a democrataidd i'w wneud.

Dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf bydd yr holl faterion yn cael eu harchwilio a hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cysylltu â mi gyda barn amrywiol a chryf. Rwy'n addo gwneud popeth y gallaf i fy etholwyr a'r wlad.

Rhannu'r Erthygl: